Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Mr Harris (Cyfanswm: 219)

 
(1, 0) 146 Pwy fasa'n disgwyl cyfarfod â blaenoriaid Seilo'n drefnus hefo'i gilydd yma?
 
(1, 0) 148 Yn erbyn?
(1, 0) 149 Welwch chi, Jared Jones, hen jeinar ydw inna hefyd; mewn gweithdy saer y bûm i am flynyddoedd cyn mynd i'r coleg, a byth er hynny mae gen i rywbeth i'w ddeyd wrth y gweithdy.
(1, 0) 150 Yno y clywais i ugeiniau lawer o ddadleuon cryf ar wahanol bynciau.
(1, 0) 151 Jared Jones, ga i drio'm llaw ar y tools ma am funud, i weld ydi mysedd a nhw'n dal i nabod i gilydd?
 
(1, 0) 158 Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr?
 
(1, 0) 160 Wel, os oes rhyw werth ynddi, dyma marn i, basa, mi fasa Paul yn gneud |tent| i'r dyn gwaetha'n y byd, achos dyna ydi crefydd, "os d'elyn a newyna, portha ef."
 
(1, 0) 162 Basa, greda i, ac mi fasa wedyn yn mynd at y dyn i'r |tent| i geisio gneud gwell dyn ohono fo.
(1, 0) 163 A chyda llaw, mae gen i, fel mae'n digwydd, fater bach yr hoffwn i gael eich barn arno, a barn ffafriol os yn bosib.
 
(1, 0) 165 Dyma'n agos i fis er pan ordeiniwyd fi'n weinidog yma, ac fel pob gwas newydd mae gen i gynllun bach y carwn i ei roi o'ch blaen fel blaenoriaid Seilo, a dyma fo: rwyf wedi gosod fy mryd ar alw yn nhŷ y bobl hynny yn yr ardal yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad.
(1, 0) 166 Mi leiciwn ar gychwyn fy ngweinidogaeth roi gwâdd iddyn nhw i'r capel: mae hynny'r peth lleia fedra i neud.
(1, 0) 167 Mae gobaith i ddyn go ddrwg ond ei gael i sŵn pethau da.
(1, 0) 168 Be ydi'ch barn chi?
 
(1, 0) 170 Go ddistaw yda chi; rwyn ofni nad ydach chi ddim yn ffafriol i'r cynllun.
 
(1, 0) 175 Tybed nad yw'n llawn bryd i neud hynny, Ifan Wyn?
 
(1, 0) 178 Does dim gorfodaeth ar neb, wrth gwrs, ond tybed na ddylwn i roi gwâdd caredig i bobl nad ydynt byth yn mynd i gapel nac eglwys dangos fod gennym ddiddordeb ynddyn nhw beth bynnag.
(1, 0) 179 Cofiwch, dydw i ddim yn disgwyl i neb ohonoch chi fel swyddogion ddod hefo fi rownd y tai ma.
 
(1, 0) 185 Mi gofia'r cyngor, Jared Jones.
(1, 0) 186 Ond unwaith eto mae fy holl fryd ar fynd i wâdd y bobl yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad, ac rwyn siwr na sefwch chi ddim yn erbyn hynny.
 
(1, 0) 194 Gŵr gweddw ydi o?
 
(1, 0) 196 Ei ferch sy'n cadw tŷ iddo, medde chi.
 
(1, 0) 199 Wel, yn wir, tŷ go anobeithiol i alw ynddo yw hwnna, ac eto gresyn fasa i mi beidio galw yno unwaith o leiaf.
(1, 0) 200 Pwy ŵyr na ddaw rhyw les o ymweld â nhw?
 
(1, 0) 204 Diolch am y rhybudd, ond y cwbl alla nhw neud ydi tafodi dipyn arna i.
(1, 0) 205 Mi ddo'i yma rai o'r dyddiau ma, Jared Jones, i gadw'm llaw i mewn fel jeinar, mae'n rhy hwyr heno.
(1, 0) 206 Nos dawch bawb ohonoch.
 
(2, 0) 398 Esgusodwch fi, ai yma mae Mr. Richard Davis yn byw?
 
(2, 0) 408 Ydi'ch tad i mewn rwan, sgwelwch chi'n dda?
 
(2, 0) 417 Wel, na, nid ciwrat ydi'r enw cywir: ciwrat eglwys ddywedwn ni yntê?
(2, 0) 418 Fi ydi gweinidog newydd capel Seilo, Miss Davis.
 
(2, 0) 421 Dod yma gan ddisgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno—
 
(2, 0) 427 Ddwedais i mo hynny; roeddwn am eich gweld chi yn gystal a'ch tad.
 
(2, 0) 429 Eifion Harris.
 
(2, 0) 431 Fe wnaiff un ohonynt y tro—Mr. Harris os mynnwch chi.
 
(2, 0) 435 Fe drois yma heno fel cymydog newydd, a doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy ngwawdio gynno chi, Miss Davis.
 
(2, 0) 440 Na, na, dim o gwbl, ond mi leiciwn wybod ymhle mae'ch tad.
 
(2, 0) 444 Wel, yn wir, mae'n ddrwg gen i glywed.
(2, 0) 445 Ydach chi ddim yn teimlo ei fod yn gneud drwg, Nel Davis?
 
(2, 0) 450 Mi wyddoch chi'n well na hynny; mi wyddoch nad ydi portsio ddim yn iawn, yn tydi o cynddrwg a—
 
(2, 0) 454 Wel i fod yn blaen a gonest, cynddrwg a lladrad.
 
(2, 0) 458 Na, na! rhoswch funud; peidiwch digio na chamesbonio pethau.
(2, 0) 459 Mi wyddoch gystal a finnau nad ydi portsio ddim yn cael ei styried yn beth parchus.
(2, 0) 460 Deydwch yn onest, ydach chi'n leicio gweld eich tad yn mynd allan hefo'i wn neu'i rwyd bob awr o'r nos?
 
(2, 0) 464 Dyna fo'n union, mi wyddwn hynny, ac wrth gwrs y rheswm am hynny ydi—
 
(2, 0) 466 Chreda i mohonoch; nid dyna ydi'ch ofn; yng ngwaelod eich calon fe wyddoch nad ydi o ddim yn gneud yn iawn.
(2, 0) 467 Ond mi rydw i'n anghofio'm neges.
(2, 0) 468 Dod yma wnes i i'ch gwâdd chi a'ch tad i'r capel rai o'r Suliau nesa.
(2, 0) 469 Fyddwch chi ddim yn mynd i unrhyw le o addoliad, fyddwch i?
 
(2, 0) 471 Ia, ond fyddwch chi ddim yn addoli yno?
 
(2, 0) 482 Wn inna ddim yn iawn chwaith, ond mi goelia i fod rhyn ddwedsoch chi rwan yn rhyw fath o addoli hefyd.
 
(2, 0) 486 Naddo'n sicr; glywsoch chi?
 
(2, 0) 488 Beth fydd yr afon a'r coed yn ei ddeyd wrthych chi?
 
(2, 0) 491 Fydda nhw'n deyd rhywbeth arall?
 
(2, 0) 493 Gollsoch chi'ch tempar?
 
(2, 0) 495 Gwarchod ni! fydd o ddim yn eich taro, fydd o?
 
(2, 0) 498 Yr hen lwfrgi sâl!
 
(2, 0) 503 Nac oes, a phe gwelwn i o'n gneud hynny mi—ond waeth tewi.
(2, 0) 504 Unwaith eto, ddowch chi i'r capel efo'ch tad ne wrthych eich hunan rai o'r Suliau nesa ma?
 
(2, 0) 513 Raid i chi ddim trafferthu chwaith.
 
(2, 0) 524 Ryda chi'n edrach yn grand—fel mellten oleu mewn ffram ddu.
(2, 0) 525 Ond r'annwyl fawr, gadewch i mi gwisgo nhw, mae gen i ofn bob munud clywed rhywun yn dod at y drws.
 
(2, 0) 539 Peidiwch a dechreu cyfri tri, ne mi welwch mai dyna'r tri mwya costus ddaru chi rioed gyfri.
 
(2, 0) 541 Gwell i chi sefyll draw; mae gen i nerth tri chipar yn y mreichiau.
(2, 0) 542 Rhowch eich llaw yn agos ataf, Richard Davis, ne beth bynnag ydi'ch enw, ac mi fydd un portsiar yn llai yn yr ardal ma am fisoedd, mi gymraf fy llw ar hynny.
 
(2, 0) 549 Eifion Harris.
 
(2, 0) 552 Cewch, neno'r dyn, os leiciech chi neud hynny.
 
(2, 0) 558 Mi ddeyda'm neges cyn mynd: dod yma wnes i ofyn i chi ddod i'r capel, Richard Davis, rai o'r Suliau ma.
 
(2, 0) 560 Gadewch i'ch merch ddod ynte.
 
(2, 0) 562 Llun pwy yw hon?
(2, 0) 563 Mae ma rhyw debygrwydd rhyngddi â'ch merch.
 
(2, 0) 566 Nos dawch i chi'ch dau.
 
(3, 0) 584 Un waith eto, Mag bach, ac wedyn mi gei lonydd am wsnos.
(3, 0) 585 Chwilia am y gair llongddrylliad; yn un o epistolau Paul mae o, rydw i'n credu.
 
(3, 0) 588 Dyna'r very peth: dyna bictiwr crand sydd yn y geiriau yntê?
(3, 0) 589 Wyt ti'n cofio nhad yn dod i'r tŷ un noson pan oeddym yn blant, yn byw ar lan môr Eifionydd, i ddweyd fod llong allan yn y môr ar y creigiau?
 
(3, 0) 591 A phawb yn y pentre'n hen ac ifanc allan yn edrych ar oleuadau'r llong yn siglo'n y pellter. "Llongddrylliad am y ffydd"—rwyt yn gweld y pictiwr sydd yn y geiriau, yn dwyt ti, Mag?
(3, 0) 592 Dyn da fel llong fawr dri-mast yn mynd yn ddarnau ar greigiau temtasiynau'r byd.
 
(3, 0) 595 Mag bach, mae na lu mawr wedi gneud hynny cyn hyn, ac ambell i bregethwr mawr yn eu mysg.
 
(3, 0) 597 Pwy sydd i farnu?
(3, 0) 598 I bob golwg roedde nhw'n ddynion da, ac yn gneud gwaith da, a phawb yn credu ynddyn nhw.
 
(3, 0) 601 Rhaid cyfadde mai hen syniad annymunol ydi o.
 
(3, 0) 603 Rwyn mynd yn stiff wrth y bwrdd ma; estyn y dumb-bells na i mi, Mag, i stwytho dipyn ar y nghymalau.
 
(3, 0) 608 Mag, mae rhywbeth o'i le arnat ti heno; rwyn teimlo fel pe baet yn siarad am y pared â fi, a ninnau'n dau wedi bod y fath ffrindiau er yn blant adref.
(3, 0) 609 Beth yw'r mater, Mag bach?
 
(3, 0) 611 Oes, mae rhywbeth, a chyn i'r pared fynd yn beth mwy, dywed yn blaen be sydd wedi codi rhyngom ni'n dau?
 
(3, 0) 615 O, dyna fel mae'r awel yn chwythu, ai ê?
 
(3, 0) 617 Be ŵyr yr ardal am y peth?
 
(3, 0) 619 Meindied yr ardal ei busnes ei hun; does a fynno hi â fy materion personol i.
 
(3, 0) 621 Hynny ydi, fe ddylwn gael barn ffafriol yr Eglwys ar y ferch brioda i?
 
(3, 0) 623 Ac wrth gwrs mae Nel Davis yn anobeithiol ym marn yr ardal, ydi hi?
 
(3, 0) 627 O Mag, Mag! dyna'r gair garwa glywais i di rioed yn ei ddeyd.
 
(3, 0) 629 Rwyn ei charu o ddifri calon, a chyn belled ag y gwelaf mae hithau'n fy ngharu innau.
 
(3, 0) 637 Mag, paid a siarad yn chwerw fel yna, achos mi wyddost nad oes dim brawd yn y byd yn fwy hoff o'i chwaer nag ydw i ohonot ti.
 
(3, 0) 640 Dos ymlaen, rwyn gwrando'n
 
(3, 0) 644 Rwyn methu gweld mod i wedi dod i groesffordd mor lom a honna.
 
(3, 0) 650 Llongddrylliad o'm ffydd!
(3, 0) 651 Pwy sy'n deyd hynny?
(3, 0) 652 Pe priodwn i Nel yfory, fyddai hynny ddim yn llongddrylliad o'm ffydd.
 
(3, 0) 655 Mae cymeriad moesol Nel gyda'r gore yn y wlad; does dim blotyn ar ei charitor.
(3, 0) 656 Mae'n wir ei bod yn wahanol i bawb arall mewn rhai pethau, ond mae hi cyn bured a grug y mynydd.
 
(3, 0) 661 Rwyn deyd unwaith eto, os ar y groesffordd yr ydw i, nid Nel a'r Eglwys yw'r ddau lwybr sy'n agor o mlaen, ond Nel a rhagfarn yr Eglwys yn erbyn Nel; Nel a phobl nad ynt erioed wedi cynnig deall Nel.
 
(3, 0) 663 Wel, os dyna'r groesffordd, os rhwng Nel a rhagfarn yr Eglwys rwyn sefyll, mi ddewisaf Nel.
 
(3, 0) 666 Nage!
(3, 0) 667 Mi bregethaf heb gôt na chadach gwyn os bydd rhaid yn y prif-ffyrdd a'r caeau.
 
(3, 0) 670 Dwedwch rywbeth, Nel: mae'ch golwg chi'n nychryn i.
(3, 0) 671 Mi wyddoch mai fy chwaer yw hon, raid i chi ddim ofni siarad.
 
(3, 0) 674 Oes rhywbeth wedi digwydd?
 
(3, 0) 683 Dyma Nel Davis, Doctor; y funud ma roedd hi'n dod i mewn i ddeyd am y digwyddiad.
 
(3, 0) 689 Cewch, wrth gwrs; fe awn allan ein dau i gyfarfod â nhw.
(3, 0) 690 Mag bach, gofala am Nel Davis, mi fyddwn yn ol rwan jest.
 
(3, 0) 743 Rwan, Nel bach! wedi torri dros y tresi eto?
(3, 0) 744 Rwyn gweld rhen olwg wyllt na yn eich llygaid.
 
(3, 0) 747 Mag, dos i weini am dipyn ar y Doctor yn y gegin.
 
(3, 0) 749 Mi fyddwch yn well rwan.
(3, 0) 750 Mae'r Doctor yn gneud ei ore i'ch tad yn y stafell na.
 
(3, 0) 752 Mae gobaith tra bo anadl.
 
(3, 0) 754 Mae'n biti nad allech chi goncro'ch tempar, Nel bach.
 
(3, 0) 759 Dowch i mewn.
(3, 0) 760 Rhoswch yma am funud.
 
(3, 0) 762 Dowch i gael golwg rwan ar eich tad.
 
(3, 0) 788 Rwyn ofni na fydd o ddim byw i weld y bore, druan, a dyna farn y Doctor hefyd.
 
(3, 0) 790 Y Doctor ofynnodd gymrwn i o i mewn; roedd arno ofn iddo farw ar y ffordd.
(3, 0) 791 Mi gwelsoch chitha'ch tri o rwan jest?
 
(3, 0) 794 Mi fydd yn ergyd trwm iddi hi i golli o.
 
(3, 0) 801 Mi wn i am un fydd mewn gofid go fawr ar ei ol.
 
(3, 0) 803 Ie, mae o'n dad iddi.
 
(3, 0) 805 Ai gofyn fel blaenor Seilo rydach chi neu fel crydd?
 
(3, 0) 815 Hanner munud, chaiff dau hen ffrind fel chi ddim ffraeo â'ch gilydd o'm hachos i.
 
(3, 0) 823 Fe ro ateb plaen i gwestiwn plaen—os yw Nel Davis yn fodlon fy mhriodi, mi priodaf hi.
 
(3, 0) 825 Ie, beth bynnag fydd y canlyniadau.
 
(3, 0) 827 Gwnaf.
 
(3, 0) 829 Mae gwahaniaeth go fawr rhwng bod yn weinidog yr Efengyl a bod yn weinidog ar Seilo.
 
(3, 0) 832 Gweinidog yr Efengyl ar bobl Seilo ydw i ac nid gweinidog Seilo ar y Efengyl─mae'r Efengyl yn fwy na Seilo, yn anfeidrol fwy, ond mae perig i ddyn feddwl weithiau fod Eglwys Seilo yn fwy ac yn gallach na'r Efengyl.
 
(3, 0) 834 Eglwys Seilo, sef y bobl sy'n dod ynghyd i'r capel—y nhw sy'n dweyd, os ydynt yn dweyd, nad ydi Nel Davis ddim yn ffit i fod yn wraig i weinidog Seilo; dydi'r Efengyl ddim yn dweyd hynny—yr Efengyl fel rwyf fi'n ei deall.
(3, 0) 835 Rhagfarn pobl Seilo yn erbyn Nel Davis sydd o dan y gwrthwynebiad yma i mi ei phriodi.
 
(3, 0) 837 Ie, rhagfarn noeth.
(3, 0) 838 Beth sy gan neb i'w ddweyd yn erbyn Nel Davis?
(3, 0) 839 Oes rhyw flotyn ar ei chymeriad?
 
(3, 0) 844 Ffaeleddau bach iawn yw rheina, a buan y tyf hi allan ohonynt ond iddi gael chware teg.
 
(3, 0) 846 Ai ïe, dyna chi rwan wedi dod at wreiddyn y gwrthwynebiad sydd iddi, y pechod mawr mae hi'n euog ohono yw, mai Dic Betsi ydi thad hi, dyna wraidd yr holl ragfarn yn ei herbyn.
(3, 0) 847 Druan ohoni, merch Dic Betsi ydi hi; pe bae'n ferch i Mr, Blackwell y Plas mi gawsai bob croeso er i'r un ffaeleddau'n union fod yn perthyn iddi, ac eto ni sy'n sôn am ysbryd gwerinol Cymru, a'r un pryd mor falch yr yda ni i gael bowio i wŷr mawr a chrach-foneddigion.
 
(3, 0) 852 Nos dawch.
 
(3, 0) 854 Anghofio'ch het ddaru chi, Jared Jones?
 
(3, 0) 865 Nos dawch, a diolch i chi, Jared Jones.
 
(3, 0) 869 Tipyn o gur sy yn y mhen i.
 
(3, 0) 872 Rwyf wedi gadael y groesffordd.
 
(3, 0) 875 Naddo, rwyf newydd hysbysu'r blaenoriaid y prioda i Nel Davis, boed y canlyniadau y peth y bônt.
 
(3, 0) 884 Marged, rwyt wedi anghofio'th barch i'th hunan ac i minnau.
(3, 0) 885 Ai dyma'r amser iti fwrw dy lid ar Nel Davis yn i phryder a'i gofid?
 
(3, 0) 890 Marged!
(3, 0) 891 Fu arna i rioed o'r blaen gwilydd ohonot.
 
(3, 0) 895 Fe ddaeth y blaenoriaid yma fel y gwelsoch ac fe ddaeth pethau i boint.
(3, 0) 896 Gofynasant i mi oedd y stori'n wir fy mod yn eich caru, ac fe ddywedais ei bod.
(3, 0) 897 Fe ddwedais y gwir, rydw i yn eich caru er mai adeg ryfedd i ddweyd hynny yw heno.
 
(3, 0) 899 Gofynnodd y blaenoriaid i mi oeddwn i'n barod i'ch priodi pe byddai rhaid i mi adael Seilo am wneud hynny, ac fe ddwedais y priodwn chi beth bynnag fasa'r canlyniadau.
 
(3, 0) 902 Does waeth gen i am farn neb yn y wlad, gan mai chi ydi cannwyll fy llygad i.
 
(3, 0) 904 Beth?
 
(3, 0) 906 Mi fynna'ch priodi.
 
(3, 0) 909 Fe rois fy ngair y fan yna heno ddiweddaf y priodwn chi pe troid fi dros y drws fory nesaf.
 
(3, 0) 911 Chi.
 
(3, 0) 913 Fe roisoch le i mi gasglu drwy'r misoedd yma eich bod yn y ngharu i.
 
(3, 0) 919 Nel bach, mi wyddwn fod popeth yn |all right|.
 
(3, 0) 922 Ond fe ddwedsoch rwan eich bod yn y ngharu i.
 
(3, 0) 924 Nag ydach, ne mi priodech fi.
 
(3, 0) 929 Nel, fi ydi'r unig un yn y lle ŵyr eich gwerth, ac rwyn benderfynol o'ch priodi, deued a ddêl.
 
(3, 0) 941 Wrth gwrs, Mr. Blackwell.
 
(3, 0) 970 Nel bach, fi sy'n gorfod torri'r newydd i chi.
(3, 0) 971 Peidiwch a chyffroi: mae'ch tad wedi mynd.
 
(4, 0) 1056 Rwan, Harri! y troed gore mlaen.
(4, 0) 1057 Orffennwn ni'r |job| yma erbyn diwedd yr wsnos?
 
(4, 0) 1060 Pe cawn i'r breichiau ma i stwytho dipyn, mi drown ragor o waith drwy nwylo.
 
(4, 0) 1064 Do.
(4, 0) 1065 Rwan, Harri ewch chitha i'ch tê.
 
(4, 0) 1067 Sut mae Jared rwan, Doctor?
 
(4, 0) 1070 Newydd ddod mae'r nyrs?
 
(4, 0) 1074 Chware teg i'r hen Scweiar, er na faddeuais i byth iddo am fynd a Nel Davis i ffwrdd.
(4, 0) 1075 Roedd eich bysedd chitha yn y bwti hwnnw, a ddwedwch chi na'r Scweiar ddim wrtho i ymhle mae hi yn Llunden.
 
(4, 0) 1077 Dyna'i gân o i minnau hefyd, ond chreda i byth na wyddoch chitha hefyd.
 
(4, 0) 1082 Ac i chitha.
 
(4, 0) 1086 Nel!
 
(4, 0) 1091 Mi ddeydodd wrtho inna mai cloben o Saesnes hyll oeddach chitha.
 
(4, 0) 1094 Na, cymryd lle Jared rydw i er mwyn ennill dipyn o brês i'r hen greadur tlawd.
 
(4, 0) 1100 O Nel, beth am dana i?
(4, 0) 1101 Rydach chi wedi bod o flaen fy llygaid bob dydd ar hyd y misoedd, ac er holi a chwilio, chawn i ddim gwybod ymhle roeddach chi, a dyma chi cystal a deyd na fasach chi byth yn dod yn ol yma er mwyn neb ond Jared.
 
(4, 0) 1103 Drosodd?
(4, 0) 1104 Nag ydyn!
 
(4, 0) 1106 Nel bach, dydi popeth ddim drosodd?
(4, 0) 1107 Mi ddaruch gadw o ngolwg am flwyddyn, na wyddwn i ar y ddaear sut i ddod atoch, ond dym chi'n ol o'r diwedd, ac nid ar chware bach y gollynga i nghafael y tro yma.
(4, 0) 1108 Mi priodwch fi rwan, yn newch chi, Nel?
 
(4, 0) 1111 Beth?
(4, 0) 1112 Wedi priodi?
(4, 0) 1113 O, wel, dyna hi ar ben arna i am byth.
 
(4, 0) 1117 Pwy ddaru chi brodi?
 
(4, 0) 1120 Nel!
 
(4, 0) 1125 Dyn a'ch helpo, mae pethau wedi newid yn ddirfawr er pan welais chi ddiwedda.
 
(4, 0) 1127 Wel, i gychwyn, mae fy lle i yn Seilo'n sicrach nag erioed.
(4, 0) 1128 Hyd yn oed pe safai Seilo yn erbyn i ni briodi, mae gen i eglwys ne ddwy'n barod i nerbyn i fory nesa, ac mi ŵyr pobol Seilo hynny.
(4, 0) 1129 Does dim gwell i'w ddal wrth ben eglwys go gyndyn na phistol galwad o eglwys arall,
(4, 0) 1130 Ond y gwir ydi, mae Seilo wedi newid ei barn am danoch.
 
(4, 0) 1133 Nage, Nel bach; yr un yn union ydach chi i mi wrth gwrs, ond i'r bobol sydd yma merch ifanc ydach chi erbyn hyn, wedi bod dan addysg yn Llunden—Nyrs Nel Davis mewn dillad glas, sy'n gweddu iddi'n ofnatsan las—Nel Davis sy'n perthyn o bell i Mr. Blackwell y Plas.
(4, 0) 1134 O mae pethau wedi newid yn rhyfedd y misoedd diwedda ma.
 
(4, 0) 1137 Fuoch chi wir?
(4, 0) 1138 Sut roedda nhw'n behafio?
 
(4, 0) 1141 Dyna fo eto; mi wyddwn fod.
(4, 0) 1142 Ifan a Hopcyn wedi newid cryn lawer ar i barn.
(4, 0) 1143 Y gwir yw, fe allwn briodi fory cyn belled ag y gwn i.
 
(4, 0) 1146 Mi wyddoch o'r goreu be ydi meddwl i; does dim ar y ffordd rwan i ni briodi pan fynnwn.
(4, 0) 1147 Ond cyn mynd ymhellach, mae arnoch chi ddyled o flwyddyn o gusanau i mi.
(4, 0) 1148 Beth pe baech yn clirio rhyw gant y funud ma, a chyn diwedd y dydd mi gynhaliwn jiwbili i glirio'r holl ddyled.
 
(4, 0) 1152 Mae Marged yn fwy awyddus na neb am gymodi â chi.
 
(4, 0) 1160 Tybed fod y Doctor yn deall i afiechyd o; mi wariwn y ddimeu ola i gael |specialist| pe gwyddwn i y bae hynny o ryw les.
 
(4, 0) 1163 Wel, dyna rôg ydi'r Doctor na.
(4, 0) 1164 Rwyt yn drydydd iddo chware ei gastiau arno.
(4, 0) 1165 Ond rwyt wedi dod i'r tic er hynny.
(4, 0) 1166 Wel di'r Nyrs sy wedi dod i dendio ar Jared.
 
(4, 0) 1205 Doctor Huws! rwyn credu y dylech chi ddeyd be ydi ystyr y cellwair yma; mae'n amlwg mai chi ac nid Jared sydd i'w feio.
 
(4, 0) 1227 Dim.
(4, 0) 1228 Ydach chi'n meddwl y baswn i'n troi yn jeinar yn lle Jared Jones pe baswn i'n gwybod?
 
(4, 0) 1238 Dyma nhw wedi'n gollwng ni'n dau rwan o'r groesffordd, ond chi bia'r clod o'u perswadio nhw,